
Croeso i wefan Grŵp Plaid Cymru Gwynedd. Grŵp o Gynghorwyr y Blaid yn gweithio ar lefel sirol yng Nghyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am y wefan hon, ac yma cewch hanes am waith diwyd ein Cynghorwyr sydd wedi eu hethol i gynrychioli pobl Gwynedd.
Prif flaenoriaethau'r Blaid yng Ngwynedd yw:
-
Gweithio law yn llaw â phobl a chymunedau Gwynedd i sicrhau'r gorau iddynt yn eu bröydd, ardaloedd, pentrefi a threfi.
-
Trysori'r iaith Gymraeg, ein diwylliant a'n traddodiadau gan hyrwyddo a datblygu'r etifeddiaeth arbennig sydd gennym fel Cymry.
-
Datblygu cyfleon gwaith yng Ngwynedd trwy gynlluniau a phrosiectau blaengar a chyffrous. Cydweithio â'r sector gyhoeddus a phreifat er mwyn annog buddsoddiad yn y sir.
-
Gofalu a diogelu'r amgylchedd arbennig sydd gennym o fewn y sir, yn draethau ac arfordiroedd, tir gwledig a mynyddoedd, yn bentrefi a threfi.
-
Sicrhau dyfodol llewyrchus i'r to iau yng Ngwynedd trwy ddatblygu economi llewyrchus, cartrefi fforddiadwy a gwasanaethau o safon.
-
Cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad a phartneriaid eraill o fewn y sir er budd a ffyniant holl drigolion Gwynedd.
Cyngh. Dyfed Edwards - Arweinydd y Grwp


