Cyng. Gareth Roberts - Aberdaron

Mae Gareth Roberts yn Gynghorydd Sir Plaid Cymru yn ardal Aberdaron 

 

 Enw: William Gareth Roberts Oed: 54

Ymhle cawsoch eich magu?

Ces fy magu yn Penllech, Bryncroes, Pen Llŷn ac yn 15 oed dyma symud i Garreg Fawr, Uwchmynydd. Mi brynon ni Garreg Fawr, fferm fechan 48 o aceri ac mi oedd dad hefyd yn bysgotwr cimychiaid a chrancod. Mi rydw i wedi dal swyddi amrywiol ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys contractwr cneifio, hyfforddwr cneifio i’r Bwrdd Gwlân, arweinydd clybiau ieuenctid a Warden i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yma’n Pen Llŷn. Ym 1996 enillais denantiaeth fferm Cwrt, Aberdaron gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fferm 214 o aceri, ac yma rydw i a’r teulu o hyd. Yn fwy diweddar dyma gymryd y cyfle i ffermio Ynys Enlli hefyd, 450 o aceri, ac rwy’n cyflogi teulu sy’n byw ar yr Ynys ac yn gofalu am y stoc yno o ddydd i ddydd.

Oes gennych chi deulu?

Oes, rydw i’n briod â Meriel ac mae gennym ni 3 o genod. Mae Meriel yn brysur adre ma yn gofalu am y gwaith o ddydd i ddydd tra fy mod i’n brysur gyda gwaith y Cyngor. Mae Angharad Mair yn 23 oed ac yn gweithio gyda phlant; Gwenllian yn 20 oed ac yn gweithio ar ei Thystysgrif Addysg ym Mangor i fod yn athrawes uwchradd ac mae Siân Heulwen yn 17 oed ac yn astudio at ei Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor. Mae Dad sy’n 81 oed yn dal yng Ngharreg Fawr ac yn helpu adre ar y fferm yma hefyd.

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am fod yn Gynghorydd Sir?

Dwi wrth fy modd yn ceisio gwneud gwahaniaeth! Dyna’r apêl fwyaf i mi, helpu pobl i wella ansawdd ac amgylchedd eu bywyd nhw yma yng Ngwynedd. Ers i mi dderbyn y rôl Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd i Gyngor Gwynedd, rydw i wedi datblygu o fod yn Gynghorydd bach distaw yn gweithio yn y cefndir yma yn Aberdaron i fod yn Gynghorydd sy’n arwain, cynllunio a pharatoi a datblygu cyfeiriad pynciau'r amgylchedd yng Ngwynedd. Dyn y pridd ydw i a phynciau amgylcheddol sy’n mynd â’m bryd. Mi rydw i’n falch iawn o allu gwella llefydd mae pobl yn eu gweld o ddydd i ddydd a diogelu’r amgylchedd ar gyfer plant a chenedlaethau sydd i ddod.

Beth ydych chi’n ei gasáu fwyaf am fod yn Gynghorydd Sir?

Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig bod Cynghorwyr yn deall fod ganddynt rol ddeublyg yn y gwaith - cynrychioli trigolion eu wardiau ond hefyd hyrwyddo Gwynedd fel sir. Mae cyfarfodydd yn gallu bod yn fwrn, ond mae’n rhaid i ni gyd sicrhau ein bod yn cyfrannu at y gwaith, sy’n golygu’n aml iawn, paratoi a darllen dogfennau ac ati cyn cyrraedd cyfarfodydd. Fel arall, dooes dim modd i ni gyfrannu at y gwaith o greu polisïau a symud Gwynedd yn ei blaen.

Beth yw eich camp fwyaf ers cael eich ethol yn Gynghorydd Sir?

Dwi’n credu bod sefyll 3 etholiad ac ennill y 3 wedi bod yn gamp bersonol i mi. Ac yna cael y fraint o fod yn Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd y Cyngor wedi golygu mod i wedi gorfod ennill parch pobl i gyrraedd y rôl.Camparallrydw i’n falch iawn ohoni yw’r ffaith bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi prynu Henfaes a’r maes parcio yn Aberdaron, cyn westy sydd bellach yn dair fflat i ymwelwyr. A thros y misoedd diwethaf y cyhoeddiad bod Canolfan Ragoriaeth Twristiaeth i ddod i Aberdaron ddaw â buddiannau economaidd ac ymarferol i Aberdaron. Gwaith tawel yn y cefndir rydw i wedi ei wneud gyda’r ddau gynllun yma, ond rydw i’n falch iawn o allu cynnig cymorth i hwyluso a datblygu gwasanaethau i ymwelwyr â’r ardal a datblygu gwaith i bobl leol yr ardal.

Pwy yw eich arwr / arwres? (person byw neu farw)

Y diweddar Anthony Jones, Penmaen, Pwllheli. Wedi colli ei dad yn ifanc, etifeddodd stad fach Penmaen ym Mhwllheli a datblygu stad carafannau ar y safle. Roedd yn hwyliwr, saethwr a dyn busnes tan gamp. Roedd gen i barch mawr tuag ato oherwydd er ei fod yn troi mewn cylchoedd cwbl wahanol i mi, dyn Pen Llŷn go iawn oedd y gŵr hwn gyda Phen Llŷn a’i phobl bob amser yn flaenllaw ar ei feddwl. Mi ddysgais lawer iawn ganddo ac mae colled fawr ar ei ôl.

Beth yw eich atgof plentyn hapusaf?

Bywyd teuluol hapus. Roedd gennyn ni deulu hapus ac roedden ni’n agos iawn. Fuo ni erioed yn gyfoethog o ran arian, ond roedden ni’n gyfoethog o ran cariad. Mae’r teimlad o fod yn perthyn yn parhau ynof fi heddiw ac mae’r gwerthoedd a ddysgodd fy rhieni i mi yn cael eu trosglwyddo i’m plant i heddiw.

Beth yw eich ofn mwyaf?

Colli iechyd.

Beth yw eich diddordebau?

Dwi wrth fy modd yn cadw gwenyn, yn tyfu llysiau ac yn saethu. Mae criw o ffrindiau a chymdogion yma’n Aberdaron yn dod at ein gilydd o dro i dro i saethu ffesantod a chwyaid. Mae’r cyfeillgarwch a’r gymdogaeth yn braf iawn ac mi rydyn ni’n saethu’r adar i’w bwyta. Mae’n braf cadw hen draddodiadau cefn gwlad yn fyw.

Pa sgwarnog ydych chi ar ei ôl ar y funud?

Dwi’n gweithio ar y cynllun i ddod â system anaerobig i waredu gwastraff bwyd y sir. Gall y system yma waredu gwastraff bwyd y sir a chreu ynni cynaliadwy i ni. Byddai’r system yn sicrhau na fydd nwyon gwenwynig yn cael eu rhyddhau i’r atmosffer, yn creu incwm i ni wrth gynhyrchu trydan ac yn creu gwrtaith i ni ei ledaenu dros y tir. Rydym yn y broses o ddewis cwmni i wneud y gwaith i ni ar hyn o bryd. Cynllun arall dwi’n gweithioarnoar hyn o bryd yw cynllun ar draws gogledd Cymru i gael gwared â deunydd gweddilliol y sir, y deunydd budr nad oes modd eu hail-gylchu na’i hail-ddefnyddio. Mae technoleg yn datblygu cymaint fel bod modd llosgi’r stwff ac mae eto’n creu ynni. Ond mae’r dechnoleg yn ddrud iawn, a dyna pam rydyn ni’n cydweithio â holl siroedd eraill y gogledd i ddatblygu’r broses.