Arweinydd Gwynedd - edrych nôl ac edrych ymlaen

03/01/2017

Ar ddechrau blwyddyn newydd, mae Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards yn edrych ymlaen at 2017 ac yn rhannu ei feddyliau am ei gyfnod diweddar wrth y llyw yng Ngwynedd.

Ymhen pum mis bydd etholiadau cynghorau sir unwaith eto wedi pum mlynedd o wasanaeth y cynghorau presennol. Fis Mai nesa hefyd bydd Cyngor Gwynedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 21 oed. Ffurfiwyd y Cyngor Gwynedd newydd yn 1996 wrth gyfuno’r hen Cyngor Sir Gwynedd a’r cynghorau dosbarth yn Arfon, Dwyfor a Meirionnydd. Yn 2017 bydd Cyngor Gwynedd yn dod i oed a’r hyn sy’n arwyddocaol am y cyfnod hwn yw bod Plaid Cymru wedi bod mewn grym yng Ngwynedd dros y cyfnod cyfan. Gyda mwyafrif clir fel heddiw; ar adegau mewn clymblaid ffurfiol gyda Llafur; a thro arall yn arwain heb fwyafrif. Mae’r cyfnod wedi bod yn un cyfoethog i Wynedd felly dyma gyfle i nodi rhai ohonynt.

Ein bwriad ni, fel Plaid Cymru yng Ngwynedd, ydi cydnabod cyfraniad pawb a chreu ein Gwynedd Yfory – Gwynedd sy’n cydnabod traddodiadau ddoe ond sydd hefyd yn ymestyn allan er mwyn creu y Wynedd Newydd. Mae Gwynedd heddiw yn gasgliad o gymunedau sy’n feicrocosm o weddill Cymru: cymunedau mewn angen; cymunedau dan bwysau ond cymunedau llawn cyfle. I ni greu gobaith mae rhaid i ni beidio bodloni ar ail adrodd y gorffennol ond mentro a dangos posibiliadau’r byd newydd.

Dyna pam rydym wedi gwthio ffiniau’r Gymraeg yng Ngwynedd er mwyn creu dyfodol cynaliadwy iddi. Ers eu sefydlu mae tua 6,000 o blant a phobl ifanc wedi bod trwy ein canolfannau iaith arloesol gan greu tref o siaradwyr Cymraeg newydd. 6,000 o blant a phobl ifanc - yr un faint a thrydydd tref fwyaf Gwynedd! Sefydlwyd y Ganolfan gyntaf yn yr 80au ac ers hynny maent wedi gwneud cyfraniad allweddol i sicrhau bod plant a phobl ifanc di-Gymraeg yn cael y cyfle i gydio yn yr iaith. A chyda’r her o annog a hyrwyddo y defnydd o’r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc yn ein hysgolion, fe sefydlwyd Siarter Iaith Ysgolion Gwynedd yn 2011. Cynllun yw hwn sy’n rhoi perchnogaeth am y defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol gyda’r plant a phobl ifanc eu hunain yn ein hysgolion, gan greu’r cyd-destun lle gall plant o bob cefndir deimlo’n hyderus wrth siarad yr iaith. Bydd y Gymraeg yn llwyddo wrth i ni greu cyd-destun cadarnhaol a gobeithiol ar ei chyfer hi.

Ers ei ffurfio, mae Cyngor Gwynedd wedi mabwysiadu’r Gymraeg fel prif iaith weinyddol y Cyngor. Fel y cyflogwr mwyaf yn y sir mae gennym gyfle unigryw i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a’i gosod yng nghanol ein gweithgareddau. Mae sicrhau ffactorau manteisiol i’r Gymraeg o fewn y Cyngor yn cael dylanwad ar statws y Gymraeg yn ein trefi a’n pentrefi wrth i’n gweithlu fynd adref at eu teuluoedd a’i ffrindiau a chreu hyder a disgwyliad o blaid y Gymraeg. Y gri o Gyngor Gwynedd felly ydi i weddill y sector cyhoeddus yn y sir i ddilyn ein hesiampl gan fentro a gweithredu polisiau i hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd o waith y sefydliad. Gallwn gyflawni hyd yn oed mwy mewn partneriaeth gyda gweddill y sector gyhoeddus yn lleol.

Ac os ydi’r Gymraeg i barhau fel prif iaith ein cymunedau a’n Cyngor rhaid sicrhau is-adeiledd addas ar gyfer yr iaith. Rhaid creu’r amgylchiadau economaidd-cymdeithasol hynny sydd eu angen er mwyn i’r Gymraeg ffynnu. Nid yw’n or ddweud ein bod yn wynebu trobwynt allweddol yn y sir gyda’n poblogaeth yn heneiddio a chanran unchel o’n pobl ifanc yn gadael ein cymunedau. Yr her i ni ydi ceisio cynnig cyfleon am swyddi da, tai a bywyd o ansawdd yng nghefn gwlad Cymru. Oes, mae gennym gyfoeth – cyfoeth o adnoddau naturiol, cyfoeth amglycheddol, cyfoeth diwylliannol. Ond mae gennym dlodi ac amddifadedd hefyd. Mae golygfeydd godidog yn gallu bod yn drawiadol ond hyll yw golwg tlodi ac anobaith.  

Ac i ymateb i’r sefyllfa, rydym yn benderfynol o greu cyfleon newydd ym maes tai wrth ddatgan bydd unrhyw dŷ newydd a godir yn ein cymunedau glan môr yn gartrefi ar gyfer pobl leol yn unig. Fel Cyngor rydym hefyd wedi cydweithio gyda phartneriaid eraill wrth sefydlu Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sirol sy’n cynnig tai a phlotiau adeiladu addas ar gyfer pobl leol. Bydd gallu ariannol Cyngor Gwynedd yn gymorth i sicrhau cyflenwad newydd o dai a thiroedd a fydd o fewn cyrraedd ariannol ein pobl. Ble mae’r farchnad rydd yn gwthio pobl allan, mae rhaid i’r sector cyhoeddus ymyrryd gan geisio unioni’r cam. A da o beth hefyd yw gweld ein cymdeithasau tai yn codi tai unwaith eto. Mae dirfawr angen cyflenwad digonol o dai addas ledled Gwynedd yn arbennig yn ein cymunedau ôl chwarelyddol a phentrefi glan môr. Ar hyn o bryd, mae dros 2,000 o bobl ar ein rhestr aros am dŷ yng Ngwynedd. A faint o dai sydd ar gael i gynnig ar rent yma ar hyn o bryd? Prin 12 o dai cymdeithasol sydd ar gael ar osod ledled Gwynedd gyfan ar unrhyw un adeg. Mae dirfawr angen mwy o dai yng Ngwynedd felly.

Mae Gwynedd mewn sefyllfa gref i droi ein hadnoddau naturiol, ein hetifeddiaeth, ein diwylliant a’n hamgylchedd yn asedau economaidd unigryw. Dyma pam rydym yn gweithio’n ddi-flino ar gyflwyno cais i sicrhau statws Treftadaeth y Byd ar gyfer y diwydiant llechi a’r cymunedau cysylltiedig yng Ngwynedd. Dyma gyfle i ni adrodd ein hanes diwydiannol a diwylliannol unigryw i’r byd gan groesawu pobl o bedwar ban i brofi cyfoeth ein hanes a’n hetifeddiaeth. Yn union fel y stori go iawn o droi ein hetifeddiaeth yn gyfle economaidd newydd a welir yn y fenter anhygoel honno yn Nyffryn Ogwen lle gallwch wibio 80 milltir yr awr ar weiren uwchben chwarel y Penrhyn, y chwarel mwyaf yn y byd ar un adeg! Diolch i weledigaeth un gŵr busnes mae chwareli ym Methesda a Blaenau Ffestiniog bellach wedi cael bywyd newydd.

Ac fel rhan o’n hymateb i gynnal cymunedau byw yn y Gymru Wledig sefydlwyd Gwynedd Ddigidol i hyrwyddo mynediad a’r defnydd o fandllydan. O ganlyniad mae nifer sylweddol o fusnesau ac unigolion yn gwneud y defnydd mwyaf o dechnoleg gwybodaeth ac yn ei ddefnyddio i hyrwyddo a marchnata eu busnesau. Gallwch bellach weithio’n ddigidol yng nghanol prydferthwch Eryri neu draethau Pen Llŷn. Dyma droi anfantais honedig yn fantais cystadleuol.

Mae i Wynedd hanes o harnesu ein tirwedd a’n hadnoddau naturiol yn gyfleon economaidd. Ac mae datblygiadau mwyaf cyfoes yn bosibl yn nyfnder Parc Cenedlaethol Eryri wrth i ni edrych ymlaen at weld datblygiadau o arwyddocad rhyngwladol yn digwydd ym Mharth Menter Eryri wrth i gynlluniau am borth gofod yn Llanbedr a safle ynni yn Nhrawsfynydd ddwyn ffrwyth. Dyma gyfleoedd arbennig sy’n digwydd unwaith mewn oes a chyfle i droi ein Parth Menter yn Barth Gobaith wrth weld cymunedau ym Meirionnydd yn elwa o swyddi cynaliadwy o safon.

Mae gan Wynedd draddodiad anrhydeddus o uchafu addysg a’i weld fel y llwybr ar gyfer dyfodol gwell. Dyna’n sicr oedd gweledigaeth y chwarelwyr ac eraill wrth sefydlu Prifysgol ym Mangor yn niwedd y pedwerydd ganrif ar bymtheg. Dyna oedd bwriad Silyn Roberts, y sosialydd ac aelod ILP o Ddyfryn Nantlle, wrth ymgyrchu i sefydlu Cangen o’r WEA yn y Gogledd yn yr un cyfnod. Ein gwaith heddiw yw cydio yn yr un weledigaeth a’i droi’n rhaglen ar gyfer y ganrif newydd. Ein nod yng Nghyngor Gwynedd ydi sicrhau rhwydwaith o ganolfannau addysg sy’n golygu adeiladau newydd gyda’r adnoddau mwyaf diweddar; sicrhau arweinyddiaeth gadarn yn yr ysgolion a datblygu’r gefnogaeth angenrheidiol i gyflwyno’r ansawdd addysg gorau posibl i’n plant a’n pobl ifanc. Mae wedi golygu chwyldro ond os ydym am sicrhau y cyfleon gorau posibl i holl blant a phobl ifanc Gwynedd mae cyfrifoldeb arnom i gynnig yr amodau cywir i wneud llwyddiant yn bosibl.

Yr hyn rydym yn deall o lywodraethu yng Ngwynedd ydi’r angen i arwain yn gyfrifol ond yn fentrus; i ddarlunio posibiliadau’r byd newydd ac yna ei greu mewn dull cynaliadwy a chadarn. Ac yn anad dim, i berchnogi ein dyfodol ein hunain, i greu ein yfory ein hunain ac i seilio’r cyfan ar ein gwerthoedd a’n dyheuadau. Nid ‘branch factory’ o unrhyw le ydi Gwynedd ond ffrwyth ein dychymyg ein hunain. Mae llwybr ein ddoe yn llawn dan bwysau heriau ac ymdrechion ein tadau a’n cyndeidiau o Streic y Penrhyn i Streic Friction Dynamex. Mae llwybr ein dyfodol i’w gweld yn eglur mewn gwisgoedd newydd a thraddodiadau yfory.