Darn Barn – Statws Ysgol newydd Gydol Oes Y Bala

10/01/2017

Unwaith eto mae'r drafodaeth wedi ei ail danio am y campws dysgu gydol oes yma yn nhref Y Bala, yn hytrach y statws arfaethedig i’r “ysgol newydd” yw testun y dydd. Braf wrth gwrs yw gweld yr adeiladu yn mynd yn ei flaen a chlywed am sicrwydd gan Gyngor Gwynedd a'r Llywodraeth fod y gwaith adeiladu yn parhau yn ôl y disgwyl.

A ninnau ond ychydig ddiwrnodau o ddathlu un o’r gwyliau mwyaf yn y calendr Cristnogol rhaid imi ddweud fel llywodraethwr, rhiant, taid, Cynghorydd Sir ac aelod o’r gymuned fod fy nheimladau fel llawer un arall yn drist ac yn bryderus â natur y sefyllfa bresennol.

Trist am nad oes sgwrs gyffrous i’w chlywed yn unman am fuddsoddiad o dros ddeg miliwn gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu adnodd addysgiadol addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Trist nad oes balchder fod adnoddau cymunedol newydd fel llyfrgell newydd, neuadd/ theatr ac adnoddau chwaraeon megis cae 3G. Yn hytrach mae cwmwl o ansicrwydd unwaith eto uwch ein pennau oherwydd y “statws” bondigrybwyll.

Fel Cynghorydd Sir Gwynedd tros ward tref y Bala yr wyf wrth gwrs yn cynrychioli pawb, beth bynnag eu hil neu iaith eu crefydd neu ddaliadau gwleidyddol, a rydwyf yn tristau yn fawr fod aelodau Eglwys Crist Y Bala yn cael eu rhoi mewn sefyllfa mor anodd. Rhaid cofio nad ein pobol ni yn lleol sydd yn arwain y drafodaeth ar statws yr ysgol yn hytrach y Sanhedrin sydd â dim i’w wneud a’n cymuned ni o ddifri. Estroniaid ydynt.

Nodais ar y cychwyn fy mod yn drist ac yn bryderus, wel mae'r pryder yn deillio o ddarllen llythyr uniaith Saesneg a ddaeth gan dwrne'r Eglwys yng Nghymru o Westminster, England. Llythyr oedd yn syth yn cyfleu amheuaeth i mi a llawer un arall o beth yw gwir ddiddordeb ac amcanion yr Eglwys i fynnu cael statws eglwysig ar yr ysgol newydd.

Er bod yr Eglwys bellach (am ryw reswm!!!) wedi pellhau o’r sylwadau yma ond yn fy marn i mae hynny yn fater o godi pais.

Nid oes neb yn gallu cyfleu i mi unrhyw fantais o gwbl er lles addysg ysbrydol na moesol ein plant o fod a statws Eglwysig yn hytrach na chymunedol, dyna sydd yn rhyfeddu. Ydy'r Eglwys yng Nghymru yn awgrymu fod ysgolion a statws Eglwysig yn rhoi gwell addysg i’n plant nac ysgolion cymunedol? Nid felly mae'r corff arolygu Estyn yn ei gweld hi.

Felly i grynhoi yr wyf drwy gyfrwng y llythyr yma yn apelio yn daer am i’r Eglwys yng Nghymru gamu yn ôl yn urddasol. A gadael inni yma ym Mhenllyn gael statws Cymunedol i’n campws newydd, gadael inni ddathlu ac ymhyfrydu yn y datblygiadau cyffrous sydd ar y gorwel. Rhoi diwedd unwaith ac am byth ar yr amheuon a’r ofnau sydd gan rieni a hyd yn oed ein plant am ddyfodol addysg yn yr ardal yma.

Beth mae'r ansicrwydd yma yn ei olygu i ddyfodol ein chweched dosbarth ni ?

Er mwyn mesur dyhead y gymuned i'r perwyl yma ac i gael tystiolaeth gadarn y mae deiseb yn cael ei llunio gan nifer o rieni, athrawon, llywodraethwyr a Chynghorwyr Sir Penllyn. Arwyddwch a chefnogwch oherwydd ar ddiwedd y dydd addysg ac adnoddau gorau ar gyfer ein plant sydd yn holl bwysig ac nid rhyw statws bondigrybwyll. Byddaf yn barod iawn hefyd i dderbyn unrhyw lythyr neu e-bost ynghylch y mater fel y gallaf eu pasio ymlaen i aelod cabinet y Cyngor tros addysg.